
Ffon
01286 879044
gwybodaeth@anturiaethau-eryri.co.uk |
![]() |
Amdan Anturiaethau EryriMae Anturiaethau Eryri yn fusnes sydd wedi ennill ei blwyf ac wedi bod yn darparu gweithgareddau yn yr awyr agored a chyrsiau sgiliau i unigolion a grwpiau ers 2000.Yr ydym yn darparu gweithgareddau awyr agored hwyliog i unigolion a grwpiau gydag arbenigedd mewn teilwro cyrsiau sgiliau pwrpasol ar gyfer cerddwyr, dringwyr a mynyddwyr. |
| Mae’r cwmni yn berchen ac yn cael ei redeg gan Mark Handford a Shân Rees Roberts. Mae Mark Handford wedi bod yn ymglymedig a’r awyr agored ers ei fod yn 11 drwy ddechrau fforio’n lleol a thripiau tramor gyda'i rieni; tra’n 15 oed fe deithiodd i gopa Mount Etna (3300 m). Wedi iddo basio ei brawf gyrru’n 17 agorwyd byd newydd iddo, lle bu’n ymweld â Chymru, Ardal y Llynnoedd a’r Alban yn rheolaidd. Mae gan Mark brofiad nifer o flynyddoedd o caiacio lle yr oedd yn cystadlu caiac slalom gydag un o brif glybiau’r wlad Stafford & Stone Slalom Club; pan iddo ddarfod cystadlu roedd yn 17eg yn y wlad. Mae ganddo ystod eang o brofiad fel hyfforddwr ac fel aelod o dîm.
Mae’n ddringwr brwd a dros y blynyddoedd wedi bod yn dringo a mynydda yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a mynyddoedd Himalaya gwlad Nepal gydag ymgais cyffroes ar Annapurna 1. Daw ei brif fwynhad o fynydda, ac fe ddewch ar draws Mark a Shân yn cerdded, dringo a sgramblo yn Eryri. Mae Mark yn aelod o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen (OVMRO) ers Ionawr 2005 ac mae’n dal y cymwysterau canlynol: Arweinydd Mynydd (Haf), Cymhwyster Dringen Sengl, Hyfforddiant Arweinydd Mynydd (Gaeaf).
Mae Shân Rees Roberts yn enedigol o Lyn ac wedi byw yn yr ardal erioed. Cymraeg yw ei iaith gyntaf ac mae’n awyddus iawn i hyrwyddo gweithgareddau awyr agored drwy’r Gymraeg. Mae hithau hefyd yn frwd am gerdded a dringo ac yn ddiweddar iawn wedi gwneud hyfforddiant Arweinydd Mynydd (Haf) - y cwrs cyntaf i’w gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Mark, mae’n mwynhau prydferthwch mynyddoedd a natur Eryri ac yn aml yn codi pac, a gwersylla’n wyllt allan o ffordd y lluoedd sy’n ymweld â’n ardal. Er prydferthwch Eryri mae’n mwynhau ymweld ag ardaloedd mynyddig eraill yn enwedig yr Alban. Yn yr haf mae’n mwynhau’r haul yn tywynnu ar lwybrau Via Ferrata yn yr Eidal ond pan mae’r tymor yn oeri, daw’r bwyelli allan ac y bydd yn anelu at rewgwymp Chamonix. . Hyfforddwyr
Mae Anturiaethau Eryri yn defnyddio hyfforddwyr hunangyflogedig craidd drwy gydol y flwyddyn; rydym ond yn cyflogi hyfforddwyr profiadol gyda’r gallu a thueddfryd i ddysgu a nwyd am eu gwaith.
I weithio gyda ni mae’n rhaid i hyfforddwyr fod â chymwysterau Arweinydd Mynydd (Haf) a Cymhwyster Dringen Sengl fel isafswm.
Mae gan nifer o’n hyfforddwyr gymwysterau pellach megis: Mountaineering Instructor Award Mountaineering Instructor Certificate
|
© Snowdonia Adventures/Anturiaethau Eryri 2007 W3C CSS and HTML 4.01 Valid Site